MEMORANDWM CYDSYNIAD

 

 

Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012

 

Cynnig Cydsyniad

 

1.  “Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012”.

 

Cefndir

 

2.  Gosodwyd y memorandwm hwn gan John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, yn unol â’r trefniadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 7 Chwefror 2012.

 

3.  Mae’r Cynnig uchod wedi’i gyflwyno i geisio cytundeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad Cenedlaethol“), yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (Dileu) 2012 (y “Gorchymyn”). Mae adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn gofyn am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gorchymyn o dan adrannau 1 i 5 o’r Ddeddf honno sy’n gwneud darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol pe bai’n rhan o un o Ddeddfau’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

4.  Gosodwyd copi o’r Gorchymyn yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012.

 

Crynodeb o’r Gorchymyn a’i Amcanion Polisi

 

5.  Mae’r Gorchymyn yn dileu’r Pwyllgor Cyngor ar Sylweddau Peryglus (y “PCSP”), a sefydlwyd o dan adran 140 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, ac yn diddymu a dirymu (gan gynnwys diddymu’r pŵer i benodir pwyllgor hwnnw) mewn perthynas â hynny.

 

6.  Sefydlwyd y PCSP i roi cyngor i Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol ac eraill mewn perthynas ag ymarfer pwerau i wneud rheoliadau o dan adran 140 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (“DDA 1990”) i reoli’r gwaith o fewnforio, cyflenwi a storio sylweddau ac eitemau peryglus penodol. Dim ond lle bydd y Gweinidogion perthnasol o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny at ddibenion atal llygredd amgylcheddol neu niwed i iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion y ceir gwneud rheoliadau. Mae’r Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ac eraill ynghylch arfer eu pwerau i wneud rheoliadau o dan adran 142 o DDA 1990 er mwyn cael gwybodaeth am sylweddau a allai niweidio’r amgylchedd neu achosi niwed i iechyd pobl.

 

7.  Un o ganlyniadau adolygiad 2010 Llywodraeth y DU o gyrff cyhoeddus yw dileu’r PCSP fel Corff Cyhoeddus Anadrannol statudol. Ers i’r PCSP gael ei sefydlu ryw ugain mlynedd yn ôl, mae’r rheoliadau wedi newid yn sylweddol ac mae’r angen am ddeddfwriaeth ddomestig ym maes sylweddau peryglus wedi lleihau yn sgil mabwysiadu trefn yr UE ar gyfer rheoleiddio cemegolion (“REACH”). Gwelwyd newidiadau hefyd yn y datblygiadau ar gyfer pwyllgorau cynghori gwyddonol y Llywodraeth.

 

8.  Y bwriad yn dilyn dileu’r PCSP yw sefydlu pwyllgor gwyddonol anstatudol i’w olynu a fydd yn rhoi cyngor arbenigol, annibynnol a diduedd i Weinidogion, gan gynnwys y rheini yn y gweinyddiaethau datganoledig, ac eraill, yn unol â chylch gorchwyl newydd, mwy hyblyg, sy’n fwy priodol yn wyneb newidiadau ym maes rheoleiddio.

 

9.  Bydd ail-greu’r PCSP fel pwyllgor gwyddonol arbenigol yn golygu mwy o dryloywder ac atebolrwydd, gan sicrhau bod Gweinidogion Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn parhau i allu cael cyngor awdurdodol a chost-effeithiol i gynnal polisïau’r Llywodraeth.

 

Materion Cymhwysedd

 

10.     Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn bwriadu gwneud y Gorchymyn yn unol ag adrannau 1, 6 a 35 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.

 

11.     Byddai’r Gorchymyn yn dileu’r PCSP ac yn diddymu a dirymu mewn perthynas â hynny.

 

12.     Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â “sylweddau peryglus” (gweler adran yr amgylchedd yn Rhan 1 o Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006). Mae cymhwysedd deddfwriaethol perthnasol gan y Cynulliad Cenedlaethol hefyd mewn perthynas â diogelwch amgylcheddol (gan gynnwys llygredd), hyrwyddo iechyd (pobl), atal salwch, iechyd a lles anifeiliaid a iechyd planhigion.

 

13.     Ym marn Llywodraeth Cymru, felly, yng ngoleuni cyfrifoldebau’r Pwyllgor, mae dileu’r PCSP o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Oherwydd hyn, gofynnir am gydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, yn gymaint â bod y Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i ddileu’r PCSP mewn perthynas â Chymru.

 

Manteision defnyddio’r Gorchymyn hwn

 

14.     Ym marn Llywodraeth Cymru, y Gorchymyn hwn yw’r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur i weithredu’r cynigion hyn yng Nghymru, fel y gellir dileu’r PCSP cyn gynted â phosibl. Yna gellir sefydlu olynydd anstatudol er lles y cyhoedd ac er mwyn sicrhau bod y Gweinidogion ac eraill yn parhau i dderbyn cyngor arbenigol, diduedd ac annibynnol yn wyneb newidiadau ym maes rheoleiddio.

 

Goblygiadau Ariannol

 

15.     Gan mai Defra sy’n ariannu’r PCSP yn llwyr, nid oes unrhyw oblygiadau ariannol i Gymru yn sgil y Gorchymyn hwn.

 

John Griffiths AC

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy